Llanllwni a Maesycrigugiau

Pwyllgor Henoed

Mae’r pwyllgor yn mynd ati’n gyson i ddarparu gweithgareddau cymdeithasol ar gyfer henoed y plwyf. Trefnir taith flynyddol a bydd pawb yn y plwyf sydd dros 70 oed yn derbyn anrheg adeg y Nadolig. Ar hyn o bryd dosberthir anrheg i ryw gant o blwyfolion. Mae gwirfoddolwyr, yn ogystal, yn trefnu Pryd ar Glud deirgawaith yr wythnos gydol y flwyddyn.

Cyswllt:
Sally Davies, Maes (01559 395268)