Pwy yw CODA? Wel, pedwar bachgen ifanc lleol a ddaeth at ei gilydd i ffurfio band nôl yn Awst 2005. A band lleol sydd wedi bod yn brysur iawn yn diddanu pobl hen ac ifanc drwy Gymru benbaladr a hyd yn oed wedi mentro dros y ffin i Lundain.
Owain Jones o Lanllwni yw’r gitarydd blaen ac mae’i gitar ynghyd â’i allu yn creu sain arbennig iawn i ganeuon y band. Dafydd Evans o Lanfihangel-ar-arth yw prif ganwr a chwaraewr yr allweddellau;.ef sy’n ysgrifennu’r caneuon. Daeth un o’i ganeuon, ‘Ar noson fel hon’, yn agos i’r brig yng nghystadleuaeth Cân i Gymru. Steffan yw brawd Dafydd ac mae’n chwarae’r gitar fâs. Mae rhai o riffs caneuon newydd y band wedi eu selio ar chwarae creadigol Steffan. Yn cadw trefn arnynt mae drymiwr y band, Aled Jones o Landysul.
Mae CODA wedi rhyddhau eu CD cyntaf sef “Cerdded” ac maen nhw wrthi ar hyn o bryd yn paratoi i recordio caneuon newydd sbon ar gyfer yr ail CD. Bydd hwnnw’n cael ei lawnsio yn gynnar yn 2007. Enillodd y bechgyn gystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2 a Mentrau Iaith 2006. Maen nhw wedi ymddangos ar nifer o raglenni teledu gan gynnwys Wedi 3, Bandit a Planed Plant. Ac mae’r caneuon sy ar y CD yn cael eu chwarae’n rheolaidd ar Radio Cymru ac ar Radio Ceredigion.
Ewch at wefan y band: www.ybandcoda.co.uk
Yno mae lluniau o’r bechgyn, rhestr o’r gigs a manylion cyswllt.
Ewch ati i drefnu eich gig chi ar unwaith.
Cyswllt:
01559 384 758 neu 01559 363 871