Mae dros 70 mlynedd bellach ers sefydlu Mudiad y Ffermwyr Ifanc ond mae hanes Clwb Ffermwyr Ifanc Llanllwni ei hunan yn dechrau yn 1943. Mae’r weledigaeth wreiddiol o gynnig gweithgareddau hamdden ac addysgol i ieuenctid yr ardal yn dal yn elfen bwysig yn y mudiad ac yn nodwedd amlwg yn rhaglen weithgarwch y Clwb yn Llanllwni. Ar ben hynny, cafwyd llwyddiannau cyson mewn amryw byd o gystadlaethau cenedlaethol ar hyd y blynyddoedd. Mae’r Clwb yn dal i ffynnu ac yn dal i ddenu aelodau newydd a brwdfrydig sy’n awyddus i chwifio’r faner dros Lanllwni yn lleol ac i gynrychioli’r clwb ar lwyfannau rhyngwladol yn Ewrop a thu hwnt.

Mae gofal am y gymuned a gofal am yr amgylchedd wedi cael cryn sylw gan y Clwb yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac fe elwodd ysbytai lleol, elusennau megis yr Ambiwlans Awyr, a llu o fudiadau gwirfoddol o weithgarwch codi arian y Clwb. Enillodd y Clwb ‘Dystysgrif Dinasyddion Da’ am eu hymdrechion a’u hymroddiad yn y maes hwn.
Harddwyd llecyn diffaith ar sgwâr Llanybydder gan aelodau’r Clwb ac yn sgil hynny cael eu hunain ar y brig mewn cystadleuaeth genedlaethol arall sef cystadleuaeth a drefnwyd dan y Cynllun Bywyd Gwledig.
Ym mlwyddyn dathlu’r 60 mlwyddiant mentrodd y Clwb i fyd cyhoeddi a llwyddo i greu cronicl cofiadawy o leisiau’r plwyf o’r ddegfed ganrif hyd yr unfed ganrif ar hugain.
Er bod y Sioe gryn dipyn yn hŷn na’r Clwb, ffermwyr ifanc y plwyf a’u cefnogwyr sy’n torchi llweys er mwyn cadw’r olwynion i droi ac yn sicrhau sioe lewyrchus ar gaeau Abercwm bob Gŵyl Banc Awst. Mae cystadlu brwd yn flynyddol ym mhob adran a gynhelir yn y pafiliwn mawr a’r mân bebyll.

Mae’r Treialon Cŵn Defaid yn sioe i ryfeddu sy’n apelio at y teulu cyfan ac yn denu, yn ogystal, gystadleuwyr safonol o bell ac agos. Mae’n arferol erbyn hyn gweld ryw 80 o gŵn yn rhedeg ar y diwrnod. Gyda’r nos try’r sylw at farnu gwartheg ar fideo ac ocsiwn lewyrchus.
Cyswllt: Meryl Davies
01559 384217