Llanllwni a Maesycrigugiau

Croeso i wefan Cymuned Llanllwni a Maesycrugiau

Mae Llanllwni yn bentref a phlwyf gwledig yng nogledd Sir Gaerfyrddin rhwng Llanbedr Pont Steffan (8 milltir) a Chaerfyrddin (14 milltir). Poblogaeth y plwyf yw tua 660 ac mae’n estyn dros ryw 6,600 o gyfeiri ar lan orllewinol Afon Teifi.

‘Llan’ yw’r elfen fwyaf cyffredin o ddigon mewn enwau lleoedd yng Nghymru. Mae tuedd erbyn hyn i dderbyn mai unig ystyr llan yw ‘eglwys’ am fod enw sant yn dilyn ‘llan’ yn aml iawn. Ond mewn cyfnod cynharach, un ystyr i ‘llan’ oedd darn o dir wedi’i gau ar gyfer tyfu rhyw gynnyrch neu i gadw eiddo fel yn  ‘coedlan’, ‘ydlan’, ‘perllan’, ‘corlan’.  Datblygiad o’r ystyr hon yw ‘darn o dir cysegredig, mynwent, eglwys’.  Mae cysylltiad hefyd rhwng y gair Cymraeg ‘llan’ a’r gair Saesneg land.

Er bod ‘llan’ yn elfen gyffredin iawn, mae egluro gweddill yr enw yn fwy anodd o lawer. Mae’r enw yn digwydd am y tro cyntaf yn 1329 a’r ffurf bryd hynny yw Lanthleweni . Digwydd y ffurf Llanllwni am y waith gyntaf c.1566.

Mae’r ffurf gynharaf ar enw’r plwyf yn ymdebygu i Lleweni ac ni ddylid anwybyddu hynny wrth geisio egluro enw Llanllwni. Mae Lleweni yn Sir Ddinbych ac yn perthyn i ddosbarth o enwau cynnar sy’n cynnwys enw person a therfyniad ‘-i’ sy’n dynodi tiriogaeth; mae’n golygu ‘tir Llawen’.